Mae Serco Limited yn un o’r darparwyr a ddewiswyd i ddarparu’r rhaglen a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae Serco wedi’i leoli yn Serco House, 16 Bartley Wood Business Park, Bartley Way, Hook, Hampshire RG27 9UY.
Mae Polisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco (“Polisi”) yn cael ei gyhoeddi gan Serco (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “Serco”, “ein” a/neu “ni”) ar gyfer y Cynllun Ailddechrau, ar gyfer ac ar ran Serco a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel rheolwyr data. Mae’r Cynllun Ailddechrau yn rhaglen o gymorth wedi’i deilwra ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis a mwy i ddychwelyd i waith, ac mae’n cynnwys datblygu sgiliau a throsglwyddo eu sgiliau i wahanol sectorau. Rydym wedi datblygu’r Polisi hwn i sicrhau eich bod chi (cyfranogwr ar y rhaglen) yn cael gwybodaeth ac yn hyderus ynghylch diogelwch a phreifatrwydd eich gwybodaeth bersonol.
Bwriad y Polisi hwn yw eich helpu i ddeall sut mae Serco yn casglu, yn defnyddio, yn datgelu, yn dal ac yn diogelu’r wybodaeth bersonol amdanoch chi. Mae hefyd yn egluro eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â ni neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os oes gennych gwestiwn, pryder neu adborth. Darllenwch y Polisi hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig.
At ddibenion y ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol a’r Polisi hwn, mae Serco a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rheolyddion data ar y cyd ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir ar y cyd; ac maent yn rheolyddion data annibynnol ar gyfer gwybodaeth bersonol nas prosesir ar y cyd sy’n angenrheidiol ar gyfer y Cynllun Ailddechrau. Mae hyn yn golygu mai Serco a’r Adran Gwaith a Phensiynau (naill ai ar y cyd a/neu’n annibynnol) sy’n gyfrifol am ofalu am eich gwybodaeth a’i diogelu.
Mae Serco wedi’i gofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU a’n rhif cofrestru ni yw Z5746980. Gall ein rhaglen a/neu ein gwefan ddarparu dolenni, hyrwyddo neu gyfeirio at wefannau, ategion neu raglenni trydydd parti annibynnol eraill (e.e. Ap Thrive y byddwn ni efallai yn ailwerthwr/hyrwyddwr ar ei gyfer). Nid yw trydydd partïon bob amser dan ein rheolaeth. Gall clicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn gyfrifol am ymddygiad cwmnïau trydydd parti sy’n gysylltiedig â’r rhaglen neu’r wefan na chynnwys eu hysbysiadau preifatrwydd. Dylech gyfeirio at hysbysiadau preifatrwydd y trydydd partïon hyn ynghylch sut a pham y gallant drin eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi’n gadael ein gwefan ni neu cyn i chi alluogi unrhyw gysylltiad, rydyn ni’n eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan, ategyn neu raglen rydych chi’n ymweld â nhw neu’n dymuno eu defnyddio.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rheolydd data annibynnol ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu, ei ddefnyddio a/neu ei rannu rhwng Serco a’r Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o gyflawni’r Cynllun Ailddechrau neu raglen/gwasanaethau eraill sy’n cael eu rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, darllenwch bolisi preifatrwydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i gael manylion sut maen nhw’n rheoli eich gwybodaeth bersonol: www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions/about/personal-information-charter
Wrth ddefnyddio’r term “data personol” neu “gwybodaeth bersonol” yn y Polisi hwn, rydym yn golygu gwybodaeth (gan gynnwys barn) sy’n berthnasol i chi ac y gallech gael eich adnabod ohoni, naill ai’n uniongyrchol neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd gennym yn ein meddiant.
Byddwn yn casglu, yn storio ac yn defnyddio’r math canlynol o wybodaeth bersonol amdanoch chi (nid yw hon yn rhestr gyflawn):
Sylwch, does dim rhaid i chi roi eich gwybodaeth bersonol i ni. Fodd bynnag, os nad ydych yn darparu’r wybodaeth bersonol y gofynnwn amdani ac y mae ei hangen arnom ar gyfer y rhaglen, efallai na fyddwn yn gallu: darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch o dan y rhaglen, neu fodloni gofynion angenrheidiol y rhaglen; neu ymateb i ymholiadau sydd gennych chi (nid yw hon yn rhestr gyflawn).
Byddwn yn cael eich data personol mewn gwahanol ffyrdd:
Byddwn yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol os oes gennym gyfiawnhad cyfreithiol dros wneud hyn a bod y prosesu yn angenrheidiol. Mae’r cyfiawnhad cyfreithiol yn dibynnu ar bwrpas yr wybodaeth bersonol a’i gofynion prosesu. Mae’r cyfiawnhad cyfreithiol rydym yn dibynnu arno i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn cynnwys:
Lle bo angen ar gyfer buddiannau dilys Serco neu drydydd partïon, fel y rhestrir isod, a lle nad yw eich hawliau diogelu data chi yn drech na’n buddiannau ni, fel:
Pan fydd angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol neu fel sy’n ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith.
Mae Serco weithiau’n delio â gwybodaeth bersonol gan ddibynnu ar eithriadau o dan y gyfraith diogelu data berthnasol. Bydd unrhyw drin a ganiateir ar wybodaeth bersonol o dan eithriadau o’r fath yn cael blaenoriaeth dros y polisi hwn, Polisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco, i’r graddau y ceir unrhyw anghysondeb.
Ar adegau, efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth categori arbennig (e.e. gwybodaeth am eich iechyd neu darddiad ethnig) neu wybodaeth am eich euogfarnau troseddol, fel y nodir yn adran 3.
Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon yn bennaf yn y sefyllfaoedd canlynol:
Ni fydd casglu’r wybodaeth hon yn effeithio ar ba un a fyddwch yn cael eich derbyn ar y rhaglen ai peidio.
Lle bo’n ofynnol gan gyfreithiau perthnasol, byddwn yn cymryd camau i sefydlu dogfen bolisi briodol a mesurau diogelu yn ymwneud â phrosesu gwybodaeth bersonol o’r fath.
Rydym yn defnyddio cwcis yn ein gwefan. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu llwytho i lawr i’ch dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Cyfeiriwch at ein polisi cwcis https://www.serco-ese.com/cookie-policy i gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o gwcis. Dim ond y rhannau o’n gwefan y mae cyfrifiadur/dyfais wedi ymweld â nhw y mae cwcis yn eu cofnodi. Os nad ydych chi eisiau cwci, gallwch osod eich porwr i’w wrthod neu fynd i’n polisi cwcis i gael rhagor o fanylion.
Ar hyn o bryd mae gennym deledu cylch cyfyng yn gweithredu ar ein safleoedd a’n swyddfeydd ac o’u cwmpas, ar gyfer (ond heb fod yn gyfyngedig i): (i) iechyd a diogelwch y cyhoedd a gweithwyr; (ii) diogelwch; a (iii) atal a chanfod troseddau. Am y rhesymau hyn, gall yr wybodaeth a brosesir gynnwys delweddau gweledol o ymddangosiad ac ymddygiad personol.
Rydym yn arddangos arwyddion i roi gwybod i ymwelwyr a gweithwyr eu bod dan oruchwyliaeth ac efallai y bydd recordiad fideo ar waith. Cedwir yr wybodaeth hon mewn amgylcheddau diogel a chyfyngir mynediad i weithwyr dynodedig Serco.
Fel y nodir uchod yn adran 2, rydym yn gweithredu’r rhaglen hon ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn yn rhannu eich data personol â nhw fel rhan o’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rheolydd data annibynnol; a phan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (neu sefydliad sy'n gweithredu ar ei rhan) yn cysylltu â chi at ddibenion gwerthuso ac ymchwil.
Byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti arall mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd yn ddyletswydd dan gontract neu pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Weithiau, gall y trydydd partïon hyn hefyd fod yn rheoli eich data personol. Mae’r trydydd partïon eraill y gallwn rannu eich data personol â nhw yn cynnwys:
Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon mewn perthynas ag ad-drefnu, ailstrwythuro, uno, caffael, gwerthu neu newid darparwyr gwasanaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti Serco dan gontract gymryd mesurau diogelwch priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n contract a’r cyfreithiau.
Yn llai cyffredin, efallai y byddwn yn prosesu ac yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon pan fydd angen i ddiogelu eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych chi’n alluog i roi eich cydsyniad.
Nid ydym ni (a’n his-gontractwyr sy’n gweithredu i ddarparu’r rhaglen i chi ar ein rhan) ar hyn o bryd yn trosglwyddo, yn storio nac yn prosesu data personol fel arall, fel sy’n berthnasol o dan Bolisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco, y tu allan i’r Deyrnas Unedig (DU). Fodd bynnag, os bydd anghenion ein busnes yn newid, byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod trosglwyddo data personol yn digwydd yn unol â’r gyfraith berthnasol ac yn cael ei reoli’n ofalus i ddiogelu eich hawliau a’ch buddiannau preifatrwydd.
Mae Serco yn gweithredu ar sail fyd-eang. Ein harfer safonol wrth drosglwyddo data personol y tu allan i’r DU/Ardal Economaidd Ewrop yw:
Byddwn yn cydweithredu ag unrhyw reoleiddwyr fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn dryloyw ynghylch y ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn fyd-eang, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Mae Serco yn cymryd rhagofalon gan gynnwys mesurau gweinyddol, technegol a ffisegol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys mynediad wedi’i ddiogelu gan gyfrinair at systemau TG, gweithdrefnau wedi’u dogfennu ar gyfer gweithwyr, monitro mewnol a hyfforddiant i helpu i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei gwarchod a’i diogelu. Mae ein gweithwyr, ein contractwyr ac unrhyw ddarparwyr trydydd parti eraill yn rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd a dim ond pan fydd gwir angen busnes y byddwn yn caniatáu mynediad i weithwyr a chontractwyr ac unrhyw ddarparwyr trydydd parti eraill.
Yn anffodus, nid yw cyfnewid gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gyfan gwbl ddiogel. Er y byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data sy'n cael ei anfon i'n gwefannau; rydych yn anfon unrhyw wybodaeth ar eich cyfrifoldeb eich hun. Ar ôl i ni gael eich gwybodaeth, byddwn yn rhoi nodweddion diogelwch a gweithdrefnau llym ar waith i geisio rhwystro mynediad heb awdurdod.
Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen neu cyhyd ag y bo’n ofynnol i ni o dan ein rhwymedigaethau cytundebol ac at y dibenion a nodir yn y Polisi hwn. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a brosesir gennym yn cael ei chadw yn unol â’n cofnodion a’n hamserlen cadw, a dim ond at y dibenion y cafodd ei chasglu y bydd yn cael ei defnyddio. Isod, ceir crynodeb o’r meini prawf rydym yn eu defnyddio i benderfynu am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol, ac wedi hynny byddwn un ai’n dileu neu’n gwneud y data’n ddienw:
Lle nad yw’r uchod yn berthnasol, byddwn fel arfer yn cadw eich data personol yn unol ag unrhyw gyfnod cyfyngu perthnasol (fel y nodir yn y gyfraith berthnasol) er mwyn caniatáu amser rhesymol ar gyfer adolygu a dileu’r wybodaeth bersonol a gedwir neu ei gwneud yn ddienw.
Mae gennych chi hawliau penodol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol. Dan rai amgylchiadau, yn ôl y gyfraith, mae gennych yr hawl i:
Nid oes rhaid i ni gydymffurfio â’ch cais i ddileu gwybodaeth bersonol os oes angen prosesu eich gwybodaeth bersonol am nifer o resymau, gan gynnwys: (i) i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu gytundebol; neu (ii) i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Gallwn barhau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn dilyn cais am gyfyngiad, lle: (i) mae eich cydsyniad gennym; (ii) i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (iii) i amddiffyn hawliau person naturiol neu gyfreithiol arall.
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn ar gyfer prosesau data Serco fel rheolydd ar y cyd a/neu reolwr annibynnol, cyflwynwch eich ceisiadau i Serco drwy’r cyfeiriad isod. Cofiwch, er mwyn sicrhau diogelwch gwybodaeth bersonol, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi cyn bwrw ymlaen ag unrhyw gais o’r fath.
Ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fel rheolydd data annibynnol ac nid fel rheolydd data ar y cyd â Serco, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol i arfer eich hawliau gan ddefnyddio eu ffurflen ar-lein Hawl Mynediad yn: www.gov.uk/guidance/request-your-personal-information-from-the-department-forwork-and-pensions
Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi lle caniateir hynny gan y gyfraith, er enghraifft os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol.
Mae gennym Swyddog Diogelu Data i oruchwylio cydymffurfiad â Pholisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu sut yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, anfonwch at:
Data Protection Officer
Serco Ltd
Enterprise House
18 Bartley Wood Business Park
Barley Way
RG27 9XB
Neu, anfonwch e-bost at dpo@serco.com neu ffonio +44 (0)1256 745900.
Awdurdod goruchwylio
Byddem yn fodlon rhoi sylw i unrhyw bryderon sydd gennych am breifatrwydd eich data yn uniongyrchol, ac rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn y lle cyntaf gyda’ch ymholiadau. Fodd bynnag, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a fydd wedyn yn ymchwilio i’ch cwyn yn unol â hynny: ico.org.uk/concerns/ 0303 123 1113
Cafodd Polisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco (fersiwn 1.1) ei adolygu a’i ddiweddaru ym mis Awst 2023.
Efallai y byddwn yn diwygio Polisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco fel ei fod yn adlewyrchu’r gofynion cyfreithiol diweddaraf a’r ffordd rydym yn gweithredu ein busnes. Os byddwn yn newid Polisi Preifatrwydd Cynllun Ailddechrau Serco, byddwn yn postio manylion y newidiadau ar ein gwefan: www.serco-ese.com/restart-scheme. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym pan fyddant yn cael eu postio.