Yn ddiweddar, llwyddodd un o bartneriaid cyflenwi Serco yn y Fflint, People Plus, i helpu dyn ifanc i fynd yn ôl i weithio. Roedd Kevin* wedi colli llawer o hyder oherwydd ei fod yn ddi-waith am gyfnod hir cyn pandemig COVID-19. Ar ôl gwneud cais am lawer o swyddi ym maes TG a Dylunio Gwefannau, gan gynnwys rolau a oedd yn is na’i set sgiliau a’i gyflog blaenorol, nid oedd Kevin yn cael unrhyw lwyddiant ac roedd yn cael ei wrthod am gyfweliadau drwy’r amser. Roedd yn ddigalon ac yn ansicr o’i ddyfodol.
Aeth Cynghorydd Cyflogaeth a Rheolwr Cysylltiadau Cyflogaeth People Plus Kevin ati i adolygu a diweddaru ei CV, a bu’n gweithio gydag ef i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol. Fe wnaethon nhw hefyd ei hyfforddi i wella ei hyder er mwyn iddo deimlo’n fwy hunanhyderus.
Yn seiliedig ar ddiddordebau a sgiliau Kevin, roedd Darren Speed, y Rheolwr Busnes yn People Plus, yn gwybod am gwmni a fyddai’n addas ar gyfer Kevin. Cysylltodd Darren â Rheolwr Gyfarwyddwr Valto, cwmni sy’n arbenigo mewn gwasanaethau TG, ac ar ôl adolygu manylion Kevin, cafodd ei wahodd am gyfweliad.
Cafodd Kevin 3 chyfweliad gyda’r cwmni a chafodd gynnig swydd Rheolwr Cyfrifon amser llawn. Roedd y rôl yn berffaith i Kevin gan ei fod yn rôl gydag amrywiaeth, cyfleoedd datblygu a’r gallu i deithio a gweithio gartref.
Bydd y tîm Mewn-Gwaith yn People Plus yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â Kevin ac yn cynnig cymorth os oes angen.
Dywedodd Kevin:
*Ffugenw