Cyn y pandemig, roedd Aaron* wedi gweithio fel Paciwr mewn Warws. Pan gafodd cyfyngiadau COVID-19 eu gwneud yn ofyniad cyfreithiol, roedd yn ddi-waith.
Ar ôl bod yn ddi-waith am ychydig o flynyddoedd, ymunodd Aaron â'r Cynllun Ailddechrau. Yn anffodus, yn fuan ar ôl cofrestru, daeth Aaron yn ddigartref. Heb gyfeiriad post, ni allai wneud cais am swyddi. Roedd Tegan – anogwr gwaith Aaron o Remploy – yn ei annog i siarad ag elusennau digartrefedd lleol yn yr ardal a gwnaeth ymholiadau i ddod o hyd i le i aros. Yn anffodus, roedd ei geisiadau i gyd yn aflwyddiannus. Erbyn hyn, roedd Aaron yn byw ar y stryd ac yn cael trafferth ymdopi.
Fodd bynnag, roedd Aaron yn wydn a daliodd ati. Yn y diwedd, cafodd lety dros dro gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Gyda llety wedi’i sicrhau daeth yn amlwg mai rhwystr arall i Aaron ddod o hyd i waith oedd nad oedd ganddo unrhyw ddogfennau adnabod ffurfiol gan eu bod wedi mynd ar goll pan oedd yn ddigartref. Soniodd Aaron wrth Tegan ei fod wedi bod yn cynilo ers sawl mis i gael copi o’i dystysgrif geni. Aeth Tegan ati i weithio drwy’r sianelau priodol a llwyddodd i gael caniatâd i brynu’r dystysgrif geni ar ran Aaron.
Pan dderbyniodd Aaron ei dystysgrif geni ym mis Ebrill, wythnos yn ddiweddarach, roedd o’r diwedd yn gallu gwneud cais am swydd a llwyddodd i gael gwaith dros dro fel Labrwr Cyffredinol gyda chwmni adeiladu lleol. Yn ogystal, ar ôl ychydig ddyddiau’n unig yn gweithio i’r cwmni, roedd Aaron wedi gwneud argraff gyntaf mor gryf, cynigiwyd rôl barhaol iddo.
Mae Aaron bellach yn gweithio’n llawn amser mewn cyflogaeth gynaliadwy ac oherwydd hyn, mae ganddo rywle i fyw hefyd. Mae hyn wedi gwella ei ragolygon yn sylweddol ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.
*Ffugenw