Aeth Daniel* yn ddi-waith oherwydd pandemig COVID-19, ac roedd rhaid iddo symud yn ôl i Ogledd Cymru i fyw gyda’i rieni. Roedd Daniel yn ddihyder ar ôl bod allan o waith am ddwy flynedd ac nid oedd yn glir ynghylch pa fath o waith yr oedd eisiau ei wneud – roedd wedi gweithio ym maes TG a Gwasanaethau i Gwsmeriaid o’r blaen.
Yn y cyfarfod cyntaf gyda Daniel, aeth Joshua, anogwr gwaith Daniel yn People Plus, ati i gwblhau asesiad diagnostig i ddeall gwybodaeth a safbwyntiau Daniel ar y pryd. Yn ystod y sgyrsiau, roedd yn amlwg nad oedd ganddo lawer o hunan-gred a hyder. Hefyd, roedd Daniel yn ddibynnol ar ei deulu i ddarparu gofal plant. Roedd y cyfuniad hwn yn gwneud i Daniel deimlo na fyddai’n gallu dod o hyd i waith yn llwyddiannus.
Pan ofynnwyd iddo ba fath o waith fyddai’n gwneud iddo deimlo’n sefydlog ac yn fodlon, dywedodd Daniel ei fod wedi gweithio ym maes TG i Aston Martin yn y gorffennol, lle bu’n helpu i sefydlu safonau gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer gweithwyr ffôn. Roedd hon yn rôl yr oedd yn ei fwynhau, a phenderfynodd Daniel y byddai’n hoffi gwneud gwaith tebyg eto. Gwnaeth Joshua annog Daniel i ymgymryd â gweithdy CV.
Pan gysylltodd Rheolwr Cysylltiadau Gweithwyr yn Serco â Joshua gyda manylion swydd wag yn delio â cheisiadau gan gwsmeriaid, teimlai y byddai’r rôl yn addas ar gyfer Daniel: roedd yn swydd gweithio gartref, a oedd yn golygu y gallai Daniel fod yno i’w deulu, ac roedd yn rhywbeth yr oedd wedi cael profiad ohono ac y byddai’n mwynhau ei wneud.
Yn anffodus, roedd cais cychwynnol Daniel am y swydd yn aflwyddiannus oherwydd problem TG, ac roedd yn teimlo’n ddigalon. Ond siaradodd Joshua â’r Rheolwr Cysylltiadau Gweithwyr yn Serco i geisio cael cyfweliad arall i Daniel.
Yn ffodus, cynigiwyd ail gyfweliad, a rhoddodd Joshua gymorth cyfweliad i Daniel i sicrhau ei fod wedi paratoi’n well y tro hwn. Yn dilyn cyfweliad da, fe lwyddodd i sicrhau’r rôl. Mae bellach yn gweithio mewn swydd amser lawn ym maes Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn Serco.
Dywedodd Daniel:
*Ffugenw