Mae Ethan Ray, Arweinydd Safle Canolfan Byd Gwaith y Rhyl, wedi canmol un o bartneriaid cyflenwi Serco, Remploy, am eu hymrwymiad parhaus i gryfhau’r berthynas waith rhyngddynt a swyddfa’r Canolfan Byd Gwaith.
Dywed Ethan:
“Cefais wahoddiad i ymuno â chyfarfod wythnosol gyda Remploy ac roedd staff o wahanol swyddfeydd y Cynllun Ailddechrau a chynghorwyr cyflogaeth yn bresennol. Roedd y cyfarfod hwn yn fforwm ardderchog ar gyfer cynadleddau achos unigol, gan rannu gwybodaeth ac arferion da, codi a rhoi sylw i faterion a rhannu straeon newyddion da.
Mae cynnal y cyfarfodydd hyn yn wythnosol wedi galluogi gwasanaeth mwy hyblyg sy’n rhoi atebion ar waith i fynd i’r afael â phroblemau ar unwaith. Yn y pen draw, darparu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig.
Yr heriau cyffredin a wynebwn yw hawlwyr yn creu trafferthion rhwng y Ganolfan Byd Gwaith a’r Darparwyr, agwedd ddigyswllt tuag at ymyriadau, a methiannau i fynychu apwyntiadau. Drwy greu perthynas waith cryfach rhwng y Ganolfan Byd Gwaith a Darparwyr, fel Remploy, rydym wedi creu dull cydgysylltiedig o weithio wrth ddelio ag ymyriadau. Ar ben hynny, mae anfon apwyntiadau Ailddechrau drwy’r Dyddlyfr Credyd Cynhwysol a chynnal trafodaethau yn apwyntiadau’r Ganolfan Byd Gwaith ynghylch apwyntiadau gorfodol hefyd wedi helpu i oresgyn yr heriau hyn.
Yn gyffredinol, mae cael y cyfle i fynychu’r cyfarfod wythnosol gyda staff y Cynllun Ailddechrau wedi bod yn gaffaeliad enfawr i’r Ganolfan Byd Gwaith wrth gyflwyno’r Cynllun Ailddechrau yn llwyddiannus. Fel Arweinydd y Safle, mae gallu mynychu’r cyfarfodydd hyn wedi bod yn fantais enfawr o ran bwrw ymlaen ag atgyfeiriadau a gwneud y rhaglen yn llwyddiant i’r Cyfranogwr, y rhanddeiliad a’r Adran Gwaith a Phensiynau fel ei gilydd.”