Dychmygwch orfod wynebu heriau 2020 fel rhiant sengl sydd newydd golli’i swydd, sy’n ei chael hi’n anodd talu ei biliau. Os nad oedd hyn yn ddigon, profodd y teulu brofedigaeth, ac roedd Sara* yn teimlo bod pethau’n dechrau mynd yn drech na hi.
Wedi syrffedu, wedi’i threchu ac yn teimlo’n unig, roedd Sara yn gwybod bod angen swydd arni. Ond, roedd heriau ei bywyd personol yn amharu ar ei chymhelliant i chwilio am waith. Cafodd Sara ei chyflwyno i’w Hyfforddwr Gwaith arbennig, Theresa o Remploy, partner cyflenwi Cynllun Ailddechrau Serco yn Ne Cymru. Llwyddodd y ddwy i feithrin perthynas dda, a gyda’i gilydd fe lwyddon nhw i wneud synnwyr o sefyllfa Sara a dechrau ar y broses o ganfod ei hunan-gymhelliant unwaith eto.
Wrth chwilio am swydd addas a fyddai’n caniatáu iddi ddanfon a nôl y plant o’r ysgol ac o fewn cyrraedd ar droed neu drafnidiaeth gyhoeddus, daeth Theresa o hyd i’r swydd ddelfrydol iddi yng Ngwesty’r Clayton. Yn ystod cyfweliad ffug, daeth yn amlwg bod Sara yn ymgeisydd arbennig ond, roedd y problemau diddiwedd wedi amharu ar ei hunan-hyder ac yn ei gwneud hi’n anodd iddi allu gwerthu ei hun mewn sgwrs. Cafodd Sara ei hyfforddi drwy’r dechneg STAR i ddefnyddio ei phrofiadau gwaith blaenorol i wella ei hymatebion mewn cyfweliad.
Ar ddiwrnod ei chyfweliad, cyfarfu Sara â Theresa i godi copi caled o’i CV, ac i gael gair o anogaeth; cyfle i feithrin meddylfryd cadarnhaol. Pan gyrhaeddodd y diwrnod mawr, cerddodd Sara allan o’r swyddfa yn llawn hyder ac aeth ymlaen i ragori yn ei chyfweliad, gan sicrhau’r swydd a’r cynnig i ddechrau’r wythnos ganlynol.
Wrth iddi baratoi ar gyfer ei diwrnod cyntaf, derbyniodd Sara arweiniad pellach megis sut i adolygu ei chynnig contract, a darparwyd cyllid ar ei chyfer fel y gallai fforddio esgidiau gwaith addas a chludiant i’r gwaith ac oddi yno tan ei diwrnod cyflog cyntaf.
Gan fod y Cynllun Ailddechrau yn cynnig gwasanaeth cyfannol, mae Sara yn parhau i dderbyn cefnogaeth Theresa wrth iddi setlo yn ei swydd newydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cyfeirio a hyfforddiant ar dechnegau rheoli amser. Yn gweithio’n ddiflino, yn wybodus ac yn garedig, mae Hyfforddwyr Gwaith Cynllun Ailddechrau fel Theresa bob amser yma i helpu i ganfod, cyfateb a lleoli’r ymgeiswyr iawn ar gyfer y swydd.
*Ffugenw