Cynllun Ailddechrau

Dyn digartref yn cael ei helpu’n ôl i waith diolch i’r Cynllun Ailgychwyn

17th Feb 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Cafodd Kyle* ei atgyfeirio at y Cynllun Ailgychwyn ar ôl cael anhawster dod o hyd i waith am dros flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, collodd Kyle ei gartref ac roedd wedi bod yn byw mewn pabell. Roedd byw mewn pabell yn ystod y gaeaf yn anodd iawn i Kyle, yn enwedig ac yntau’n chwilio am waith.

Cyfarfu Kyle â Siân, ei Hyfforddwr Swyddi gyda PeoplePlus, a dywedodd wrthi mai ei swydd ddelfrydol fyddai gweithio yn y sector lletygarwch. Ar ôl bwrw golwg dros ei CV, gallai Siân weld bod ganddo’r holl sgiliau angenrheidiol i ymgeisio am swyddi a chael ei wahodd am gyfweliadau yn y sector.

Yn benderfynol o ddod o hyd i waith, gwnaeth Kyle y gorau o’i gyfle ar y Cynllun Ailgychwyn drwy ddefnyddio ei gyfarfodydd wyneb yn wyneb i ymgeisio am swyddi, i wirio ei CV a hefyd i wefru ei ffôn fel y byddai ar gael bob amser i fynd i gyfweliad. Roedd hyn yn golygu pan gafodd swydd llawn amser fel Cynorthwyydd Cegin ei hysbysebu mewn gwesty lleol, roedd Kyle yn barod.

Llwyddodd Kyle yn y cyfweliad a chychwynnodd yn ei swydd newydd ar ôl dim ond chwe mis ar y Cynllun Ailgychwyn. Mae’n cael help i gael cartref a bydd cyflog llawn amser yn helpu Kyle i ddod o hyd i rywle parhaol i fyw.

Roedd tîm PeoplePlus wrth eu bodd â’r canlyniad: “Rydym yn gobeithio y gwnewch fwynhau’r swydd newydd, Kyle, a phob lwc!”

*Ffugenw

Back to all news