Ar ôl bod allan o waith am beth amser, doedd Hayley* ddim yn hyderus y byddai’n dod o hyd i’w swydd ddelfrydol fel tyllwr corff. Ond ar ôl troi at y Cynllun Ailddechrau, cafodd y cymorth roedd ei angen arni i sicrhau rôl fel tyllwr corff dan hyfforddiant yn y diwydiant o fewn dau fis.
Ym mis Tachwedd, cyfeiriwyd Hayley at PeoplePlus, un o bartneriaid cyflawni Serco yng Nghymru, lle y neilltuwyd Hyfforddwr Swydd penodedig iddi, sef Joshua.
Gan sylweddoli ei bod yn awyddus i ymuno â sector arbenigol, medrus, bu Joshua yn helpu Hayley i ymchwilio i’r diwydiant a theilwra ei CV yn unol â hynny. Ac fe wnaeth hefyd ei hannog i rwydweithio â gweithredwyr busnesau tatŵio a thyllu’r corff lleol er mwyn codi ei phroffil.
Gan fod Hayley yn ei chael yn anodd credu ynddi’i hun, daeth Joshua o hyd i weithdy meithrin hyder ar ei chyfer, bu'n siarad â hi’n rheolaidd, gan gynnig lle diogel iddi drafod unrhyw bryderon a fyddai'n codi.
Roedd y dull hwn yn llwyddiannus iawn, ac erbyn mis Rhagfyr roedd Hayley wedi sicrhau cyfweliad am swydd fel tyllwr corff dan hyfforddiant. Cafodd gynnig dechrau yn y swydd ym mis Ionawr a derbyniodd hithau’r cynnig yn syth.
Meddai Joshua: “Mae’r amser a dreuliodd Hayley ar y Cynllun Ailddechrau wedi arwain at ganlyniad gwych. Roedd ei hyder yn tyfu bob tro roeddem yn siarad a chafodd gyfweliad perffaith. Mae’n wych gweld Hayley mor hapus a brwdfrydig am ei rôl newydd.”
*Ffugenw