Drwy fyw mewn llety dros dro mewn ardal goediog anghysbell yng nghanolbarth Cymru, heb lawer o fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, Wifi prin a dim signal ffôn, roedd John* yn wynebu sawl rhwystr i waith.
Asesodd Sophie, Hyfforddwr Swyddi Remploy, anghenion John a chynlluniodd gynllun hyfforddi pwrpasol ar ei gyfer. Wrth i’w perthynas ddatblygu, soniodd John am ei angerdd at goginio, ac eglurodd ei fod wedi gweithio fel Cogydd yn y gorffennol a’i fod eisiau dod o hyd i waith tebyg.
Canolbwyntiodd John ei ymdrechion ar hyfforddiant cyn cyflogi, gan gynnwys datblygu hyder a gweithdai ysgogiadol, a derbyniodd arweiniad ar sut i gryfhau ei CV a defnyddio ‘y farchnad swyddi gudd’ yn effeithiol ar Facebook i ddod o hyd i rolau a gwneud cais amdanyn nhw. Hefyd, fe gyflwynodd gopïau o'i CV yn bersonol i reolwyr lletygarwch lleol er mwyn iddo allu gwneud mwy o gysylltiad.
Talodd y gwaith caled ar ei ganfed a chafodd John gyfweliad mewn bwyty lleol a chafodd wybod rai dyddiau’n ddiweddarach ei fod wedi cael swydd Prif Gogydd ac yn dechrau’r wythnos ganlynol. Ar ôl iddo gael y swydd, neilltuwyd cyllid i brynu offer cegin arbenigol er mwyn i John allu setlo’n hawdd yn ei rôl newydd.
Dywedodd Sophie: “Rydw i wrth fy modd bod John wedi dod o hyd i swydd y mae’n dwli arni. Roedden ni’n gallu defnyddio hyblygrwydd y Cynllun Ailgychwyn i chwalu’r camsyniad cyffredin ynglŷn â chymorth ariannol – roeddem yn gallu ei helpu waeth beth yw ei leoliad, ei gysylltedd neu ei fynediad at drafnidiaeth. Roedd y ffaith ein bod wedi gallu trefnu cyllid ar gyfer offer arbenigol yn goron ar y cyfan!”
*Ffugenw