Roedd colli ei swydd mewn gwesty yn ystod y pandemig wedi rhoi straen ar gyllid Michelle ac wedi ei gorfodi hi a’i merch i symud i fyw mewn tŷ a rennir. A hithau wedi cael llond bol o'r bobl oedd yn rhannu tŷ â nhw, a oedd yn gaeth i gyffuriau ac yn eu cam-drin yn eiriol, roedd Michelle yn benderfynol o ddod o hyd i waith a sicrhau cartref sefydlog iddi hi a’i merch. Er hynny, roedd hi’n poeni y byddai'r ffaith nad oedd ganddi gymwysterau yn cyfyngu ar ei chyfleoedd a heb gynilion, ni fyddai hi’n gallu fforddio teithio i’r gwaith, hyd yn oed pe bai hi’n cael gwaith.
Aeth i’w Chanolfan Byd Gwaith leol, a chael ei chyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, rhaglen sy’n helpu'r rheini sy’n chwilio am waith i oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i waith cynaliadwy. Gyda chymorth PeoplePlus, sy’n darparu’r cynllun yn ardal leol Michelle, llwyddodd i gael cyfweliad ar gyfer rôl Porthor Cegin yn Prezzo yng Nghaerdydd. Roedd yn gyfle gwych, gan fod y swydd amser llawn yn golygu y byddai’n ennill cymwysterau ym maes iechyd a diogelwch, hylendid a diogelwch bwyd. Ond roedd angen iddi dalu ymlaen llaw am esgidiau gwrth-lithro i fodloni’r gofynion o ran gwisg a byddai’n rhaid iddi fynd ar y trên i gyrraedd lleoliad y swydd.
Yn ogystal â darparu hyfforddiant a bod yn gefn emosiynol iddi pan oedd helynt yn digwydd yn y tŷ, dywedodd Lee, Hyfforddwr Swydd Michelle, y gallai dalu cost ei thocynnau trên hyd at ei diwrnod cyflog cyntaf a helpu i brynu esgidiau gwrth-lithro. Roedd Michelle wrth ei bodd ei bod yn gallu derbyn y rôl ac roedd Lee wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â hi i wneud yn siŵr ei bod hi’n setlo yn ei rôl newydd.
Meddai Michelle: “Rydw i’n ddiolchgar iawn. “Fyddwn i wirioneddol ddim wedi gallu mynd yn ôl i fyd gwaith heb eich help. Fe fuoch chi’n gefn mawr i mi hefyd pan oeddwn i’n mynd drwy’r cam-drin geiriol. Ers cael y swydd hon, rwy'n fwy rhydd i wneud mwy o bethau nag yr oeddwn i cyn hynny. Roeddwn i’n gallu fforddio cael Nadolig hyfryd a sbwylio fy merch gyda digonedd o anrhegion! Roeddwn i wrth fy modd yn gweld ei hwyneb hi wrth iddi eu hagor. Rydw i hefyd yn gallu trwsio fy ffôn o’r diwedd a chael y fflat rydw i wir ei eisiau. Mae’n gyffrous iawn!”
Ychwanega Lee: “Mae Michelle nawr mewn sefyllfa i fod yn falch iawn ohoni hi ei hun ac yn gallu gweithio tuag at gael ei fflat. Da iawn, Michelle!”
*Ffugenw