Cyn wynebu’r heriau o fod yn fam sengl yn 2020, roedd Charlotte* wedi gweithio mewn rôl manwerthu amser llawn ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid. Oherwydd bod ei chyfrifoldebau wedi newid pan ddechreuodd ei phlant drefn ysgol newydd, nid oedd Charlotte bellach yn gallu ymrwymo i waith amser llawn a phenderfynodd adael ei swydd.
Cyflwynwyd Charlotte i Leah, ei Hanogwr Gwaith Remploy, a oedd eisiau helpu Charlotte i oresgyn y cyfyngiadau y gall cyfrifoldebau gofal plant un rhiant eu cynnwys yn aml. Aeth Leah ati i chwilio am rolau hyblyg a allai gyd-fynd ag amseroedd gollwng y plant yn yrysgol.
Yn ogystal â’r her hon, roedd iechyd meddwl Charlotte wedi cael ergyd pan oedd yn ddi-waith, felly fe wnaeth Leah ei chyfeirio at weithdy iechyd meddwl i’w helpu i ddatblygu technegau i oresgyn gorbryder. Buont hefyd yn diweddaru ei CV i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y rolau y byddai’n ymgeisio amdanynt, a bu Leah yn ei chefnogi i chwilio am swydd.
Ar ôl i Charlotte gwblhau’r gweithdy iechyd meddwl a diweddaru ei CV, rhoddodd Leah wybod i Charlotte am gyfle am swydd Cynrychiolydd Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn Serco. Roedd hon yn rôl ‘gweithio gartref’, a oedd yn cynnig hyblygrwydd llawn o ran gofal plant ac roedd yn gweddu i brofiad blaenorol Charlotte o weithio ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid. Roedd Charlotte yn teimlo ei bod yn barod ac yn ddigon hyderus i gael ei henwebu ar gyfer y rôl hon a chafodd gefnogaeth lawn gan Leah i sicrhau ei bod yn barod am gyfweliad drwy gynnal cyfweliadau ymarfer.
Bu Charlotte yn llwyddiannus ac mae hi wedi dechrau ei swydd newydd fel Cynrychiolydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn Serco, gan ei galluogi i reoli ei hamserlen waith o amgylch ei chyfrifoldebau gofal plant, a sicrhau rôl mewn sefydliad mawr gyda sicrwydd swydd dda a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
*Ffugenw