Cynllun Ailddechrau

"Wrth edrych yn ôl, fe ddylwn i fod wedi prynu tocyn loteri"

1st Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

Roedd Courtney yn gobeithio na fyddai’n teimlo’n waeth na'r adeg pan roedd diweithdra wedi golygu ei bod yn rhaid iddi roi’r gorau i’w fflat yng Nghaerdydd a symud i atig rhiant ei chariad ym Merthyr. Ond yna daeth y Pandemig gan ei chadw draw oddi wrth ei theulu a’i ffrindiau a oedd mewn sir arall, ac roedd y cyfan yn golygu ei bod yn gorfod defnyddio ei chynilion i gyd. Roedd hi’n amheus a dweud y lleiaf; ond camodd y Cynllun Ailddechrau i’r adwy i roi tro ar fyd. 

Fel un o’r Cyfranogwyr cyntaf ym Merthyr, Courtney oedd cleient cyntaf Michelle Morgan, Hyfforddwr Swydd o bartner cyflenwi Serco, PeoplePlus. Roedd y ddwy yn gyrru ymlaen yn dda o’r cychwyn cyntaf a chafodd Michelle wybod bod ar Courtney eisiau gyrfa fel Cynorthwyydd Gweinyddol.

Drwy lwc, roedd yn rôl roedd PeoplePlus yn ceisio’i llenwi ei hun. Ac wrth gwrs, llwyddodd Courtney i gael y swydd. 

Mae’n dweud, “Wrth edrych yn ôl, fe ddylwn i fod wedi prynu tocyn loteri ar ddiwrnod y cyfweliad oherwydd doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc!  Un funud roedd popeth yn edrych yn dywyll a’r funud nesaf daeth yr haul drwy’r cymylau, ac roedd dwy flynedd o ddim byd wedi dod i ben. Gallwch chi ddychmygu pa mor frwd ydw i dros y Cynllun Ailddechrau nawr. Roeddwn i’n Gyfranogwr ac erbyn hyn rwy’n gweithio yn PeoplePlus yn helpu i’w roi ar waith. Mae’n dangos ei fod yn gweithio!”  

Back to all news