Cynllun Ailddechrau

Y Cynllun Ailgychwyn yn helpu gofalwr o Gymru i ddechrau gyrfa newydd

5th Jan 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Pan ymunodd Richard* â’r Cynllun Ailgychwyn am y tro cyntaf, dywedodd ei Hyfforddwr Swyddi yn ELITE Supported Employment, ei fod yn teimlo’n llethol ac yn ansicr o'i nodau gwaith ar ôl blynyddoedd fel prif ofalwr aelod o'r teulu. At hynny, dim ond yn ystod oriau'r dydd roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn weithredol yn ei ardal leol, a oedd yn lleihau ei opsiynau gwaith.

Yn ystod ei gyfarfod cyntaf gyda’i Hyfforddwr Swyddi, Natalie, eglurodd Richard ei fod wedi bod yn edrych am swyddi a oedd yn cyd-fynd â’i gyfrifoldebau gofalu a’i fod wedi digalonni nad oedd wedi cael unrhyw ymateb i’w geisiadau. Daeth yn amlwg i Natalie yn fuan mai yn y maes gweithgynhyrchu oedd ei brofiad, ac roedd  angen diweddaru ei CV a’i sgiliau chwilio am waith. Trefnodd i Swyddog Ymgysylltu ELITE i helpu Richard i ail-edrych ar ei CV ac i greu rhestr o gyfleoedd addas ar ei gyfer.

Gyda CV proffesiynol y gallai ei lanlwytho
ar-lein, roedd Richard yn dechrau teimlo’n fwy hyderus. Felly, pan ddaeth ELITE o hyd i rôl Gweithredwr Cynhyrchu yn ystod oriau’r dydd, bachodd ar y cyfle i gael sgwrs anffurfiol gyda’r cyflogwr, a chafodd gynnig cyfweliad. I baratoi, cafodd Richard hyfforddiant ar gyfer cyfweliad a dangosodd Natalie iddo sut i ddefnyddio ap Traveline.cymru i gynllunio ei siwrnai ddyddiol. Cafodd gynnig y swydd ac mae’n setlo yn ei weithle newydd wrth i Natalie barhau i’w gefnogi i ddatblygu ei hyder ymhellach.

*Ffugenw

Back to all news