Ar ôl cael gwaith bron yn syth ar ôl iddo gael ei gyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, mae Justin yn esbonio, “Roeddwn i wedi treulio ychydig o flynyddoedd heb waith, a doeddwn i ddim yn cael lwc yn cael cyfweliad am swydd hyd yn oed. Roeddwn yn digalonni, yn enwedig gan fod y cyfryngau’n adrodd bod mwy o gyfleoedd gwaith nag erioed.
Roedd fy Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Waith yn codi fy nghalon ac yn fy annog i ‘ddal ati i drio am waith, a bydd cyfle yn siŵr o ddod’; er fy mod yn colli fy hyder yn raddol. Fe wnaeth fy rhoi mewn cysylltiad â’r Cynllun Ailddechrau gan ddweud eu bod yn cael adborth da iawn ganddynt.
Yn ystod fy nghyfarfod cyntaf gyda Kelly, fy Anogwr Gwaith yn Serco, rhoddais fy manylion iddi ac eglurais pa fath o swydd ac oriau roeddwn yn chwilio amdanynt, ac eglurodd y gefnogaeth a oedd ar gael gan y Cynllun Ailddechrau. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, ac erbyn yr ail gyfarfod roedd Kelly wedi gwneud dwy alwad ffôn, ac roedd y ddwy wedi arwain at gyfweliadau.
Cyfweliad ar gyfer swydd lanhau mewn ffatri leol oedd y cyntaf, a dyma’r swydd a dderbyniais; mae’n eithaf gwledig ac anghysbell yma gyda llawer o bobl yn gorfod cymudo awr neu fwy i ffwrdd. Dechreuais fy swydd newydd yr wythnos ganlynol. Mae’r staff yma’n gyfeillgar iawn ac roedd hi’n hawdd setlo yn y gwaith. Mae teimlo fel aelod gwerthfawr o dîm ar ôl bod allan o waith am gymaint o amser yn deimlad braf iawn.”
Mae eisoes wedi gwneud argraff fawr, fel yr eglura Kate o’r cwmni recriwtio CSA: