Drwy fyw mewn llety dros dro mewn ardal goediog anghysbell yng nghanolbarth Cymru, heb lawer o fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, Wifi prin a dim signal ffôn, roedd John* yn wynebu sawl rhwystr i waith.
Er gwaethaf deng mlynedd o brofiad mewn Manwerthu, a nifer o sgiliau trosglwyddadwy, roedd Charlie* yn tan-werthu ei hun drwy wneud cais am swyddi lefel mynediad yn unig.
Pan ymunodd Richard* â’r Cynllun Ailgychwyn am y tro cyntaf, dywedodd ei Hyfforddwr Swyddi yn ELITE Supported Employment, ei fod yn teimlo’n llethol ac yn ansicr o'i nodau gwaith ar ôl blynyddoedd fel prif ofalwr aelod o'r teulu. At hynny, dim ond yn ystod oriau'r dydd roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn weithredol yn ei ardal leol, a oedd yn lleihau ei opsiynau gwaith.
Er gwaethaf profiad o weithio mewn warysau ac adeiladu, mae Owen* wedi bod yn ddi-waith ers dros ddwy flynedd ar ôl ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith o fewn pellter cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Wrth i'r misoedd fynd yn eu blaenau, teimlai Owen mai'r unig swydd fforddiadwy iddo ddechrau fyddai o fewn pellter cerdded wrth i'w arian ar gyfer cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus ddechrau crebachu.